Topic outline
Grymoedd yn y Gofod
Dysgu am egni a grymoedd, ymchwilio i'r gwahaniaeth rhwng màs a phwysau. Cyn gorffen gyda chrateri, beth ydyn nhw? sut maen nhw'n cael eu ffurfio? a sut olwg fydd arnyn nhw.
Rhedeg Gyda'r Gwynt
Dysgwch bopeth am drydan, beth ydyw a sut rydyn ni'n ei gynhyrchu, cyn canolbwyntio ar egni gwynt a thyrbinau.
Byddwch yn gorffen y gweithdy trwy edrych ar fanteision ac anfanteision defnyddio pŵer gwynt. Yna byddwn yn canolbwyntio ar Gymru a’r diwydiant gwynt sydd wedi’i leoli yma.
Dylunio Glaniwr Mawrth
Yn y cwrs hwn byddwn yn edrych ar wahanol deithiau i'r blaned Mawrth, yn cwblhau gweithgaredd i ddylunio ein glanwyr Mawrth ein hunain ac yna'n edrych ar y lleuad.
Llunio Ein Dyfodol
Yn y gweithdy hwn byddwch yn dysgu popeth am gynhesu byd-eang. Byddwch yn edrych ar beth ydyw, beth sydd yn ei achosi, a pha effaith y mae'n ei chael ar y Ddaear.
Byddwch hefyd yn gwneud arbrawf byr gan ddefnyddio eitemau cartref i ymchwilio i effeithiau y mae mynyddoedd rhew a rhewlifoedd yn toddi yn eu cael ar lefel môr. Cyn gorffen y gweithdy, byddwn yn edrych ar rai o'r ffyrdd y mae'r eicon ifanc Greta Thunberg wedi bachu sylw'r byd yn ei brwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
Mwy na dim ond Map
Yn y cwrs hwn byddwch yn dysgu am sut y mae mapiau wedi’u datblygu i helpu gwyddonwyr i ddeall problemau cymhleth. Yna byddwch chi’n cwblhau gweithgaredd lle byddwch chi’n defnyddio mapiau i fesur maint cap rhew ar wahanol gyfnodau dros 40 mlynedd. Ar ôl hyn gallwch ddod i’ch casgliadau eich hun am sut mae’r cap rhew wedi newid dros amser. Mwynhewch!Ingenuity Hofrennydd Mawrth
Rydyn ni'n mynd i edrych ar arbrawf diweddaraf NASA ar y blaned Mawrth - Ingenuity!
Mae Ingenuity yn brosiect newydd cyffrous, sef Hofrennydd Mawrth!
Cysawd yr Haul
Dewch i archwilio ein Cysawd yr Haul gan fod y gweithdy hwn yn eich tywys trwy'r hyn sy'n gwneud planed yn blaned, beth sydd ei angen ar gyfer bywyd fel yr ydym yn gyfarwydd ag ef heddiw, a'r gwahanol blanedau yn ein Cysawd yr Haul.
Opteg Ffibr a'r Frwydr yn Erbyn Newid Hinsawdd
Darganfyddwch sut y gall opteg ffibr helpu i ragweld dyfodol yr ail gorff mwyaf o rew yn y byd, llen iâ'r Ynys Las.
Ystafell dianc cylchedau trydan
Mae'r Trydan wedi diffodd yn yr ysgol. Mae'n amser mynd adref, ac mae'r drysau wedi cloi yn electronig felly ni allwch fynd allan. Datryswch y posau canlynol ar gylchedau i ddatgelu'r codau sydd eu hangen i ddatgloi'r drws a dianc.
Bydd pob pos yr ydych yn ei ddatrys yn datgelu cod i agor clo. Mae'n rhaid i chi agor pob clo yn y drefn gywir.
Blwyddyn 10 Gwaith ymarferol penodol Ffiseg CBAC
Bydd y cwrs hwn yn eich tywys ar sut i gyflawni’r gwaith ymarferol penodol ffiseg Blwyddyn 10 CBAC.
RHYBUDD: Peidiwch â rhoi cynnig ar yr arbrofion hyn heb athro yn bresennol sydd wedi cynnal asesiad risg llawn.